Job Advert
Research Assistant
The Welsh School of Architecture, Cardiff University is currently seeking a highly motivated Research Assistant to join our team and work with Dr Chris Whitman and colleagues on a funded EPSRC Place Based Impact Accelerator Account project “O Llaith i Gynnes” (From Damp to Warm) which aims to demonstrate how solid masonry walled dwellings of rural Wales, a region of very severe exposure to wind-driven rain, can provide resilient, comfortable, low carbon homes fit for the 21st century. The project is in collaboration with Cardiff University’s School of Engineering, Carmarthenshire County Council, The Tywi Centre and the South-west Wales Regional Energy Team. This RA post will focus on implementing detailed and rigorous baseline scientific performance monitoring and evaluation of a farmhouse owned by Carmarthenshire County Council, and exploring innovative representation of the data for a range of end users.
The ideal RA candidate will hold a degree in a relevant discipline or equivalent experience (essential) and a postgraduate degree at PhD level (or in later stages of postgraduate research study) (desirable) in a relevant subject area such as Architecture, Building Physics, Environmental Engineering, Surveying or any related field. They will have knowledge of building performance monitoring, ideally with an interest in buildings of traditional construction. They will have excellent communication and interpersonal skills, and the ability to work collaboratively in a team environment. The RA will be well versed in graphic skills, and exhibit creativity and innovation in data representation, suitable for educational users, policy makers, homeowners and the wider public.
For informal enquiries about the role and the Welsh School of Architecture, please contact Dr Chris Whitman WhitmanCJ@Cardiff.ac.uk or Lucy Forrester ForresterL@cardiff.ac.uk
This part-time position (20 hours per week) is available in October 2026 and is fixed term for 4 months and your contract will end no later than 26 March 2027.
Applications for flexible working or job share arrangements will also be considered.
Salary: £33,951 - £36,636 per annum, pro-rata for hours worked (Grade 5)
Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale.
Date advert posted: Thursday, 17 September 2026
Closing date: Thursday, 1 October 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Hysbyseb Swydd
Cynorthwyydd Ymchwil
Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd yn chwilio am Gynorthwyydd Ymchwil brwdfrydig i ymuno â’n tîm a gweithio gyda Dr Chris Whitman a chydweithwyr ar brosiect wedi’i ariannu’n ddiweddar gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) drwy Gyfrif Cyflymu Effaith Seiliedig ar Le. Enw’r prosiect yw ‘O Llaith i Gynnes’, a’i nod yw dangos sut y gall anheddau â waliau gwaith maen solet yng nghefn gwlad Cymru – rhanbarth y mae glaw sy’n cael ei yrru gan y gwynt yn effeithio arni’n ddifrifol iawn – gynnig cartrefi gwydn, cyfforddus, carbon isel sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Dyma brosiect ar y cyd ag Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, Cyngor Sir Gâr, Canolfan Tywi a Thîm Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru. Bydd y swydd hon yn canolbwyntio ar fonitro a gwerthuso perfformiad gwyddonol sylfaenol ffermdy sy’n eiddo i Gyngor Sir Gâr yn fanwl ac yn drylwyr, gan gynnwys ystyried ffyrdd arloesol o gyflwyno’r data i ystod o ddefnyddwyr terfynol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol radd mewn pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol (hanfodol) a gradd ôl-raddedig ar lefel PhD (gall fod yn agosáu at orffen y rhaglen/cyflwyno’r traethawd ar ei chyfer) (dymunol) mewn pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, ffiseg adeiladau, peirianneg amgylcheddol neu dirfesureg. Bydd ei gefndir ym maes monitro perfformiad adeiladau, a bydd ganddo ddiddordeb mewn adeiladau wedi’u hadeiladu’n draddodiadol. Bydd ganddo sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol, ynghyd â'r gallu i gydweithio’n rhan o dîm. Bydd gan y Cynorthwyydd Ymchwil sgiliau graffig da, a bydd yn dangos creadigrwydd wrth gyflwyno data mewn ffordd sy’n addas i ddefnyddwyr addysgol, llunwyr polisïau, perchnogion tai a'r cyhoedd ehangach.
I wneud ymholiadau anffurfiol ynghylch y swydd ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru, cysylltwch â Dr Chris Whitman drwy e-bostio WhitmanCJ@caerdydd.ac.uk neu Lucy Forrester drwy e-bostio ForresterL@caerdydd.ac.uk
Swydd ran-amser (20 awr yr wythnos) yw hon. Mae’r swydd ar gael ym mis Hydref 2026 am gyfnod penodol o 4 mis. Bydd eich contract yn dod i ben erbyn 26 Mawrth 2027. Byddai ceisiadau i weithio’n rhan-amser neu rannu’r swydd hefyd yn cael eu hystyried.
Cyflog: £33,951 hyd at £36,636 y flwyddyn, pro-rata yn ôl nifer yr oriau sy’n cael eu gweithio (Gradd 5).
Mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 17 Medi 2026
Dyddiad cau: Dydd Iau, 1 Hydref 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd