

Cardiff
New Jobs
Contract, Contract
£64,301 a year
Yr hyn rydym yn ei Gynnig:
Gwybodaeth Ychwanegol:
Bydd unrhyw symudiad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o gyflogwr arall yn golygu na allwch gael mynediad at dalebau gofal plant mwyach. Mae hyn yn cynnwys symudiadau rhwng adrannau'r llywodraeth. Fodd bynnag, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth. Penderfynwch ar eich cymhwysedd ar wefan https://www.gov.wales/childcare-offer-for-wales-campaign
Er na allwn warantu contract hirach neu fwy parhaol ar hyn o bryd, os gellir ymestyn y rôl neu ei gwneud yn un barhaol, gall deiliad llwyddiannus y swydd gael cynnig y rôl yn gyntaf heb gyfweliad ychwanegol.
Ystyriaeth Emosiynol:
Wrth gyflawni’r rôl hon, byddwch yn dod i gysylltiad rheolaidd â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol.
O ystyried natur y gwaith, [mae’n bosibl hefyd] y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.
Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.
Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.
Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â recriwtio@policeconduct.gov.uk a gall hyn gael ei drefnu.
Cyflwyniad Swydd:
Fel Rheolwr Ymchwiliadau – Cymhleth, byddwch yn rhan o dîm ymchwiliadau dynamig sy'n gweithio'n lleol ac yn genedlaethol ar bob math o ymchwiliadau yn y gyfarwyddiaeth Ymchwilio, Goruchwylio a Gwaith Achos. Byddwch yn cyfarwyddo ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag achosion argyfyngus, dadleuol a risg uchel.
Gyda'r Rheolwr Ymchwiliadau – Rheolwr Perfformiad ac Adnoddau ac Ymchwiliadau – Busnes Craidd, byddwch yn gyfrifol am ddarparu arweiniad strategol i dimau o ymchwilwyr, sicrhau bod ymchwiliadau o ansawdd uchel, cadarn ac annibynnol yn cael eu darparu ac arddangos ein gwerthoedd craidd ym mhob agwedd ar eich rôl.
Byddwch yn atebol am ansawdd, prydlondeb ac effeithlonrwydd ymchwiliadau.
Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn y Grwp Ymarferwyr Gweithredol ar gyfer Gwneud Penderfyniadau; byddwch yn gosod safonau, yn ymwreiddio arfer da wrth wneud penderfyniadau, yn gweithredu fel arweinydd pwnc, yn cynnal prosesau sicrhau ansawdd ac yn darparu cefnogaeth gan gymheiriaid i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar draws y sefydliad.
Byddwch yn arwain ar Hawl Dioddefwyr i Adolygiad, byddwch yn benderfynwr ar ail-ymchwiliadau ac yn ailedrych ar benderfyniadau ymchwilio blaenorol.
Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant, i ddysgu mwy, cliciwch yma.
Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi gwblhau 2 x Cwestiynau Didoli yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol.
Amcangyfrifir i ddyddiadau asesu a chyfweld ddigwydd Diwedd Awst-Dechrau Medi
Arweinyddiaeth a chyffredinol:
Â
Trawsnewid:
Â
Cyflawni:
Â
Cyfrifoldeb Corfforaethol:Â
Â
Penderfyniadau:
Cyfathrebu ac Ymgysylltu:
Â
Â
Cymhwysedd Diwylliannol, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd am gyfrifoldebau llawn y rôl.
Yr Ymgeisydd Delfrydol:
Dymunol:
Dymunol:
Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig.
Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas.
Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
Rydym yn credu fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at le gwaith mwy arloesol a bywiog. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tan-gynrychioli neu o dan anfantais yn y gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, yn cynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bob ymgeisydd ac i greu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi
Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i BPSS
National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)
Addasiadau Rhesymol:
Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir.
Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Cyfeiriwch at ein canllawiau Addasiadau Rhesymol yn y ddogfen sydd wedi’i gysylltu â'r hysbyseb swydd hwn ynglyn â sut i gyrchu Addasiadau Rhesymol gyda ni.
Byddwch chi'ch hun:
Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.
Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn.
Mae gweithredu cadarnhaol fel y manylir arno yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn ein galluogi i ddefnyddio mesurau a luniwyd i helpu i wella cydraddoldeb yn y gweithle, a chreu maes chwarae teg i bawb, tra’n parhau i gyflogi pawb ar sail teilyngdod. Mae ein data proffil gweithlu yn dangos bod pobl sy'n nodi eu bod yn ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael eu tangynrychioli yn SAYH.
Ar gyfer y rôl hon – pe bai gennym sefyllfa lle mae ymgeiswyr lluosog wedi cyflawni’r sgôr uchaf ac un yn nodi ei fod yn ddu, Asiaidd neu ethnig leiafrifol, trwy ddefnyddio gweithredu cadarnhaol, gallwn ddewis yr ymgeisydd hwnnw ar gyfer y rôl, gan wella’r maes hwn o dangynrychiolaeth yn SAYH felly. Dim ond pan fydd yr ymgeiswyr sy'n sgorio uchaf wedi sgorio'n gyfartal, yn y cam asesu terfynol, ac yn uwch na'r trothwy gofynnol y byddwn yn defnyddio gweithredu cadarnhaol yn y modd hwn.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr i ymgeisio am rolau trwy gyfrwng y Gymraeg fel eu dewis iaith.
Amodau gwaith
Mae'r IOPC yn gweithredu polisi gweithio hybrid sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl staff weithio 40% o'u horiau cytundebol ar gyfartaledd yn eu swyddfa (neu swyddfa arall am resymau busnes). Mae amser presenoldeb swyddfa yn cynnwys hyfforddiant personol, cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid a theuluoedd, a mynychu digwyddiadau.

Cardiff
New Jobs
Contract, Contract
£64,301 a year