Job Advert
Lecturer at the School of Optometry and Vision Sciences
Cardiff University, School of Optometry and Vision Sciences is seeking a motivated and forward-thinking optometrist to provide high quality teaching in our undergraduate and postgraduate taught programmes.
We’d like to hear from you if you are an optometrist who is GOC registered with a a passion for education and an ability to develop and deliver across a range of undergraduate and postgraduate taught modules, including Primary Eye Care, Acute Eye Care and/or Medical Retina.
As a UK leader of postgraduate optometric education we are very much looking forward to welcoming new talent to our team to maintain and extend the quality of our delivery.
We can offer you the chance to work in a vibrant organisation, with great benefits.
Informal enquiries are welcomed and can be directed, in the first instance, to the Director of Postgraduate Taught Studies, Professor David Whitaker (WhitakerD@cardiff.ac.uk). For HR queries, please contact OPTOMHR@cardiff.ac.uk.
The post is offered at Grade 6 or Grade 7 on a part-time basis (40% time), up to 2 days per week. Opportunities may also be available to work in enhanced NHS clinical services within the School.
The post is fixed-term for 3 years and is offered on the Teaching and Scholarship pathway.
When applying for the vacancy, please indicate the Grade you wish to apply for.
Salary:
£41,064 - £46,049 per annum, pro rata (Grade 6) or
£51,753 - £56,535 per annum, pro rata (Grade 7)
Please be aware appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave pro rata'd (incl. bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It's an exciting and vibrant place to work with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
Date advert posted: Monday, 7 September 2026
Closing date: Monday, 21 September 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Hysbyseb Swydd
Darlithydd yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
Mae Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg Prifysgol Caerdydd yn chwilio am optometrydd blaengar a llawn cymhelliant i ddarparu addysgu o ansawdd uchel yn ein rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir.
Hoffem glywed gennych os ydych chi'n optometrydd sydd wedi'i gofrestru gyda'r GOC ac sydd â dros addysg a’r gallu i ddatblygu a chyflwyno ar draws ystod o fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig a addysgir, gan gynnwys Gofal Llygaid Sylfaenol, Gofal Llygaid Acíwt a/neu Retina Meddygol.
Fel arweinydd addysg optometreg ôl-raddedig yn y DU, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu talent newydd i'n tîm er mwyn cynnal ac estyn ansawdd ein darpariaeth.
Gallwn roi’r cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog, gyda buddion gwych.
Croesewir ymholiadau anffurfiol a gellir eu cyfeirio, yn y lle cyntaf, at y Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir, yr Athro David Whitaker ( WhitakerD@caerdydd.ac.uk ). Ar gyfer ymholiadau AD, cysylltwch â’r Cynghorydd Adnoddau Dynol, (OPTOMHR@caerdydd.ac.uk).
Cynigir y swydd ar Radd 6 neu Radd 7 ar sail ran-amser (40 % o'r amser), hyd at 2 diwrnod yr wythnos. Efallai y bydd cyfleoedd ar gael hefyd i weithio mewn gwasanaethau clinigol y GIG o fewn yr Ysgol.
Mae'r swydd am gyfnod penodol o 3 blynedd ac fe'i cynigir ar y llwybr Addysgu ac Ysgoloriaeth.
Wrth wneud cais am y swydd hon, nodwch y radd yr hoffech wneud cais amdani.
Cyflog:
£41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6) neu
£51,753 - £56,535 y flwyddyn (Gradd 7)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 7 Medi 2026
Dyddiad cau: Dydd Llun, 21 Medi 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.